1.    Cyflwyniad

 

Mae’r papur hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am gynigion y gyllideb ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Llywodraeth Leol, fel yr amlinellwyd y rheini yng Nghyllideb Ddrafft 2017-18 a osodwyd ar 18 Hydref.   Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf hefyd am feysydd penodol sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

 

Mae Atodiad A yn rhoi manylion ffigurau’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y MEG Llywodraeth Leol, a hynny yn ôl Camau Gweithredu a Llinellau Gwariant (BEL).

 

2.    Cefndir

 

Mae yng Nghyllideb Ddrafft 2017-18 gynllun blwyddyn ar gyfer buddsoddi arian refeniw, a chynllun pedair blynedd ar gyfer buddsoddi arian cyfalaf, sy'n rhoi sicrwydd ar gyfer buddsoddi yn y tymor hwy.  Mae Tabl 1 yn rhoi trosolwg o'r MEG Llywodraeth Leol.

 

Tabl 1: Trosolwg o’r MEG Llywodraeth Leol ar gyfer 2017-18

 

Crynodeb Llywodraeth Leol

 

Gwaelodlin Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

 

20Cynlluniau newydd Cyllideb Ddrafft 2017-18

20Cynlluniau newydd Cyllideb Ddrafft
2018-19

20Cynlluniau newydd Cyllideb Ddrafft
2019-20

20Cynlluniau newydd Cyllideb Ddrafft
2020-21

DEL Adnoddau

3,333,635

3,262,256

 

 

 

DEL Cyfalaf

20,281

143,118

143,118

143,118

143,118

Cyfanswm DEL

3,353,916

3,405,374

143,118

143,118

143,118

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm y Gwariant a Reolir yn Flynyddol

977,000

1,059,000

0

0

0

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm – Llywodraeth Leol

4,330,916

4,464,374

143,118

143,118

143,118

 

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer refeniw yn y MEG Llywodraeth Leol yn cynnwys DEL Adnoddau ac AME Adnoddau. Gyda’i gilydd, £4.321bn yw gwerth y rhain yn 2017-18, sy’n gynnydd o £10.6m o’i gymharu â 2016-17.

 

Mae cynnydd o £122.8m yn y gyllideb arian cyfalaf.  Mae hyn yn dilyn trosglwyddo sawl elfen o Gyllid Cyfalaf Cyffredinol sydd wedi'i dangos mewn MEGs eraill yn y gorffennol.  Maent wedi’u cydgrynhoi yn y MEG Llywodraeth Leol er mwyn bod yn fwy tryloyw.  

 

Elfen fwyaf y MEG Llywodraeth Leol yw'r cyllid craidd i’r 22 cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol, a hwnnw’n arian heb ei neilltuo.  Ystyrir yr arian hwn yn nhermau Cyllid Allanol Cyfun (AEF) sy’n cynnwys y grant cynnal refeniw (RSG) ac ardrethi annomestig (NDR) wedi'u hailddosbarthu.  Mae’r grant cynnal refeniw wedi’i gynnwys o fewn y DEL Adnoddau, ac ardrethi annomestig yw'r AME Adnoddau.

 

O fewn cyfanswm y DEL Adnoddau, mae gwaelodlin Grant Cynnal Refeniw 2016-17 wedi’i addasu i gynnwys y £2.5m a roddwyd am un tro’n unig yn 2016-17 i gyfyngu ar y gostyngiadau yn y Grant i rai awdurdodau.  

 

Mae ffigurau 2017-18 yn cynnwys trosglwyddo nifer o grantiau i’r setliad a throsglwyddo ohono gyllid i newid y trefniadau ar gyfer y cymhorthdal cofrestru athrawon.

 

Gan ystyried y Grant Cynnal Refeniw a threthi annomestig ynghyd, bydd cyfanswm y cyllid sydd ar gael i awdurdodau drwy'r Setliad Llywodraeth Leol yn golygu cynnydd ariannol o £3.8m (Tabl 2). Bydd trefniadau tebyg yn berthnasol i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy Setliad yr Heddlu.    

 

 

Tabl 2: Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer Awdurdodau Unedol a’r Heddlu

 

 

 

£000s

 

2016-17 (wedi’i addasu)

2017-18 Arfaethedig

Y gwahaniaeth

Awdurdodau Unedol

 

 

 

  RSG

3,175,482

3,101,370

 

  NDR

928,150

1,006,050

 

  Cyfanswm

4,103,632

4,107,420

3,788

 

 

 

 

Yr Heddlu

 

 

 

  RSG

87,950

85,750

 

  NDR

48,850

52,950

 

  Cyfanswm

136,800

138,700

1,900

 

 

 

 

3.    Trosolwg o’r Gyllideb

 

Cyllideb yw hon sydd wedi cael ei datblygu mewn cyfnod ansicr ac anodd.  Bydd canlyniad refferendwm yr UE yn ailddiffinio’n perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn yr hirdymor; mae ansicrwydd hefyd ynghylch dyfodol ffynonellau cyllid Ewropeaidd pwysig a’r effaith ar gyllid cyhoeddus yn y DU a Chymru.

 

Rydym yn dal i wynebu toriadau parhaus i’n cyllid cyffredinol gan Lywodraeth y DU – mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dweud y bydd Cymru’n wynebu un mlynedd ar ddeg o gwtogi ar wariant mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac mae’r corff dylanwadol hwn yn disgrifio hynny fel rhywbeth rhyfeddol.

 

Mae hyn yn golygu ein bod, yn Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn wynebu dewisiadau anodd wrth inni barhau i weithio i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus rhag y gwaethaf o’r effeithiau hyn, ac wrth fuddsoddi yng Nghymru er mwyn creu swyddi a chryfhau ein heconomi, gan symud Cymru yn ei blaen.

 

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Datganiad yr Hydref ym mis Tachwedd. Er bod datganiadau cynnar Canghellor y Trysorlys yn awgrymu na fydd y Trysorlys yn ceisio sicrhau gwarged erbyn 2010, mae wedi dweud hefyd nad yw’n ddiwedd ar y polisi o gyni. Dyna pam, yn ein Cyllideb Ddrafft, ein bod wedi penderfynu cyhoeddi cynlluniau gwariant refeniw ar gyfer 2017-18 yn unig a chynlluniau gwariant cyfalaf am bedair blynedd, sy’n rhoi mwy o sicrwydd ar gyfer buddsoddi yn y tymor hwy.

 

Rydym bellach yn ail flynedd setliad Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, setliad a bennodd gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru rhwng 2016-17 a 2019-20 a’r gyllideb gyfalaf tan 2020-21. Yn gyffredinol, bydd cyllideb Cymru yn parhau i ostwng mewn termau real dros y cyfnod hwn.

 

Bydd y toriadau sydd eto i ddod yn dyfnhau effaith y gostyngiadau a wnaed mewn termau real bob blwyddyn ers 2010-11. Dangosodd y gostyngiadau i’n setliad ar ôl yr Adolygiad o Wariant bod Llywodraeth y DU am barhau i docio gwariant cyhoeddus a’i bod wedi ymrwymo i’w pholisi o gyni.  Bydd ein cyllideb 9% yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd – mae hyn yn gyfystyr â bron i £1.5bn yn llai mewn termau real ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn 2019-20 o’i gymharu â 2010-11.

 

Mae’r gweinyddiaethau datganoledig wedi erfyn ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei pholisi economaidd ac ariannol.  Gan weithio ynghyd, rydym yn benderfynol o wrthwynebu rhagor o bolisïau cyni a all fod yn yr arfaeth yn dilyn canlyniad y refferendwm.

 

Mae canlyniad refferendwm yr UE wedi ychwanegu at yr ansicrwydd ynghylch adnoddau Cymru yn y dyfodol. Bydd gadael yr UE yn cael effaith ar yr adnoddau hynny sydd ar gael yng Nghymru, gan ein bod yn elwa o £650m y flwyddyn o wahanol ffynonellau ariannu Ewropeaidd.

 

Mae angen cynlluniau refeniw arnom nawr er mwyn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus heddiw, yn ogystal ag ariannu ein blaenoriaethau dros y tymor hwy a’n galluogi i baratoi at y gostyngiadau anochel yn y gyllideb dros y blynyddoedd nesaf os na fydd y polisi o gyni’n dod i ben.

 

Unwaith y byddwn wedi asesu effaith Datganiad yr Hydref, bwriadwn gyhoeddi rhagdybiaethau ar gyfer 2018-19 a 2019-20 yn y flwyddyn newydd. Mae ein penderfyniad i gyhoeddi cyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn i ddod yn golygu ein bod yn rhoi sefydlogrwydd i wasanaethau craidd ac yn buddsoddi yn y blaenoriaethau sydd angen sylw’n syth. Mae hyn yn rhoi llwyfan sefydlog inni er mwyn dygymod yn y cyfnod ariannol anodd sydd o’n blaenau, a hynny drwy weithio mewn ffordd arloesol gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid.

 

Dull integredig, hirdymor o ddefnyddio cyllid cyfalaf

 

Yn y gyllideb hon, mae gennym gyfle i fuddsoddi yn yr economi, i wella gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac i ddechrau cyflawni'r prif flaenoriaethau a nodwyd gennym yn Symud Cymru Ymlaen. 

 

Yn y gorffennol, cyllid cyfalaf a chyllid drwy drafodiadau ariannol traddodiadol fu gennym yn bennaf i ariannu prosiectau seilwaith cyhoeddus.  Bellach, gall Cymru ddefnyddio pwerau benthyca newydd a dulliau cyllido mwy arloesol, wrth i lefel y cyfalaf cyhoeddus sydd ar gael barhau i ostwng. 

 

Byddwn yn gosod cyllideb dros bedair blynedd, gan adlewyrchu’r setliad cyfalaf a gafwyd yn Adolygiad o Wariant 2015 y DU. Mae hyn yn cynnwys cyllideb bendant ar gyfer 2017-18 a dyraniadau dangosol ar gyfer y tair blynedd ddilynol.  Mae’n bwysig ein bod mor dryloyw ac yn rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallwn i’n prif randdeiliaid a’n partneriaid cyflawni er mwyn buddsoddi arian cyfalaf, a’n casgliad oedd mai dull sy’n seiliedig ar yr hirdymor yw’r ffordd orau o fynd ati.

 

Cyfanswm y cyllid cyfalaf sydd ar gael

 

Mae’r gyllideb yn dangos ein cynlluniau i roi £6.9bn o gyllid cyfalaf, ac yn ychwanegol at hwnnw ein cynlluniau i fuddsoddi £1.5bn drwy ein rhaglenni buddsoddi ariannol arloesol.   Byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y pwerau benthyca cyfalaf sydd gennym yn Neddf Cymru 2014. Bydd y ffynhonnell hon o gyllid, sy’n rhan o’r dyraniad cyfalaf cyffredinol, yn rhoi hwb o £395m i’n cyllidebau DEL Cyfalaf dros bedair blynedd. 

 

Ac ystyried y ffactorau niferus sy’n effeithio ar amseru a chostau prosiectau seilwaith strategol, byddwn yn ystyried yn ofalus sut i ddefnyddio cyllid wedi’i fenthyca yn ystod cyfnod pob cyllideb, ac yn defnyddio’r arian hwnnw wedyn ar gyfer y blaenoriaethau y cytunwyd arnynt i fuddsoddi’n strategol.  Yr ymrwymiadau yn Symud Cymru Ymlaen a’r blaenoriaethau buddsoddi yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru a fydd yn llywio ein cynlluniau a’n penderfyniadau ar gyfer buddsoddi’n strategol.  

 

Cronfa ganolog wrth gefn Llywodraeth Cymru

 

Ein polisi yw dyrannu cymaint â phosibl i bortffolios ond gan gadw lefel ddarbodus yn y gronfa ganolog wrth gefn petai angen ymateb i bwysau annisgwyl.  Tra bo’r egwyddor hon yn berthnasol i’n cyllidebau refeniw a chyfalaf fel ei gilydd, rydym yn cynyddu’r gronfa gyfalaf wrth gefn ymhellach, gan sicrhau bod digon o gyllid canolog ar gael i roi'n blaenoriaethau ar waith wrth i’r rheini ddatblygu dros dymor y Cynulliad.

 

O’r herwydd, mae ein cronfa adnoddau wrth gefn ar gyfer 2017-18 yn 1.7 y cant o’r DEL Adnoddau a’r gronfa gyfalaf wrth gefn yn 7.1 y cant o’r DEL Cyfalaf, gan godi i rhwng 30 a 34 y cant yn y tair blynedd ddilynol.  Rydym yn fodlon y bydd y lefelau hyn o gronfeydd wrth gefn yn ein galluogi i reoli risgiau ac ymateb i bwysau annisgwyl, tra ar yr un pryd yn rhoi sicrwydd ariannol i Ysgrifenyddion y Cabinet i ddechrau cynllunio a chyflawni’r prif ymrwymiadau yn Symud Cymru Ymlaen.

 

4.    Y Rhaglen Lywodraethu

 

Cyllideb i symud Cymru ymlaen yw hon, i roi sefydlogrwydd yn ein gwasanaethau craidd, ac i wneud cynnydd wrth roi ar waith ein Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen 2016-21:

http://gov.wales/docs/strategies/160920-taking-wales-forward-cy.pdf  .

 

Mae Symud Cymru Ymlaen yn dangos sut y bydd y llywodraeth hon yn creu mwy o swyddi o ansawdd gwell drwy economi gryfach a thecach; yn gwella ac yn diwygio gwasanaethau cyhoeddus; ac yn creu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy drwy ddatblygu a rhoi ar waith bedair strategaeth drawsbynciol:

 

·                     Ffyniannus a diogel

·Iach ac egnïol

·Uchelgais a dysgu

·                     Unedig a chysylltiedig

 

Bydd y strategaethau hyn yn sail i Symud Cymru Ymlaen ac yn ein galluogi i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael i ni i gael yr effaith fwyaf ac i gyflawni addewid Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.  Bydd y strategaethau cydgysylltiedig hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus wedi’u hintegreiddio, yn effeithlon, ac yn gallu cefnogi a chyfoethogi bywydau pobl pan fydd angen y gwasanaethau hynny arnynt.

 

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd sy’n annog cyflawni arloesol yn yr hinsawdd sydd ohoni.  Bydd cydweithio, gwaith partneriaeth a sicrhau effeithlonrwydd drwy’n holl wasanaethau cyhoeddus yn hanfodol bwysig, a rhaid inni herio'n hunain a'n partneriaid i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym ar y cyd i sicrhau bod ein hymdrechion yn arwain at y budd mwyaf posibl.  Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi i ni ac i gyrff cyhoeddus eraill sylfaen gref i adeiladu arni. 

 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i greu’r amgylchiadau cywir i fusnesau ffynnu ac i roi cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer annog twf a chreu swyddi. Byddwn yn torri £100m ar y dreth i fusnesau bach yn 2017-18 drwy ein Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes, a fyddai fel arall wedi dod i ben. O 2018, byddwn yn sefydlu cynllun newydd, diwygiedig, parhaol.

 

Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes yn rhoi rhyddhad o 100% i fusnesau a chanddynt werth ardrethol o hyd at £6,000, a rhyddhad graddol o 100% i ddim i’r rheini a chanddynt werth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000. Yn ogystal â’r Cynllun hwn, byddwn yn neilltuo £10m yn ein cronfa wrth gefn er mwyn ariannu cynllun rhyddhad newydd i fusnesau bach yn y cyfnod pontio.  

 

5.    Cwestiynau’r Pwyllgor

 

Llywodraeth Leol

 

Mae gwariant ar lywodraeth leol yn hanfodol er mwyn darparu addysg, gofal cymdeithasol, gwasanaethau tai ac amryw o wasanaethau eraill sydd wedi’u cynllunio i roi’r cyfle gorau i bobl gael bywydau iach a ffyniannus. 

 

Arian a roddir drwy’r grant cynnal refeniw, ynghyd ag incwm o ardrethi annomestig sy’n cael ei ailddosbarthu, yw craidd y cyllid y mae Llywodraeth Cymru’n ei roi i lywodraeth leol.

  
Yn 2017-18, mae’r ddwy elfen hon yn cynyddu’r arian sydd ar gael yn y setliad am y tro cyntaf ers 2013-14, a bydd hyn yn sicrhau bod modd i awdurdodau lleol gynnal y gwasanaethau lleol pwysig y maent yn eu darparu.

 

Mae hwn yn setliad gwell na’r un yr oedd llywodraeth leol yn ei ddisgwyl, ac mae’n dilyn setliadau'r flwyddyn gynt pan gafodd y dyraniadau eu gwarchod gennym hefyd.  At hynny, rydym wedi cyflwyno trefniant lle bydd cyllid gwaelodol ar gael, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw awdurdod unigol yn wynebu gostyngiad amhosibl yng nghyfanswm ei setliad o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.

 

Mae Setliad Llywodraeth Leol 2017-18 yn cynnwys £25 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol.  Mae hefyd yn adlewyrchu cytundeb Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru i roi £25 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol drwy'r setliad, yn ogystal â £1 miliwn ar gyfer cludiant i ysgolion a £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot i helpu gyda pharcio ceir yng nghanol trefi.

Y trafodaethau â llywodraeth leol

 

Bu trafodaethau cyson â llywodraeth leol am y ffactorau sy’n effeithio ar setliad 2017-18.  Bu nifer o gyfarfodydd ffurfiol o dan y trefniadau partneriaeth, gan gynnwys tri chyfarfod o’r Is-grŵp Cyllid a chyfarfodydd o is-grŵp hwnnw, yr Is-grŵp Dosbarthu, sy’n ystyried materion sy’n ymwneud â’r fformiwla ddosbarthu.  Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a'i ragflaenydd, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, sydd wedi cadeirio cyfarfodydd yr Is-grŵp Cyllid.  

 

Y fformiwla gyllido

 

Mae fformiwla’r setliad, sy'n cael ei datblygu a’i chytuno ar y cyd â llywodraeth leol, yn sicrhau bod y cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol yn seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys teneurwydd poblogaeth ac amddifadedd cymharol ar draws awdurdodau lleol Cymru.  Mae’r fformiwla yn dosbarthu’r arian sydd ar gael ar sail angen cymharol gan ddefnyddio pob math o wybodaeth am nodweddion demograffig, economaidd-gymdeithasol, ffisegol ac amgylcheddol pob awdurdod yng Nghymru.  

 

Caiff y fformiwla gyllido ei hadolygu’n barhaol er mwyn sicrhau ei bod wedi’i diweddaru ac yn berthnasol.  Mae Adroddiad yr Is-grŵp Dosbarthu yn 2016 yn dangos newidiadau arfaethedig i’r fformiwla a’r ffynonellau data ar gyfer 2017-18.  Yn ei gyfarfod ar 4 Hydref, cytunodd yr Is-grŵp Cyllid i roi ar waith yr holl newidiadau a gynigiwyd yn yr Adroddiad, er mai yn raddol a dros ddwy flynedd y byddai’r newid i’r fformiwla gwasanaethau cymdeithasol personol yn digwydd.  Bydd cofnodion y cyfarfod ac Adroddiad yr Is-grŵp Dosbarthu yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

 

Cytunwyd hefyd y byddai’r Is-grŵp Cyllid yn ystyried yn fanylach raglen waith yr Is-grŵp Dosbarthu yn 2017 er mwyn sicrhau bod modd deall yn iawn y cynlluniau i ddatblygu’r fformiwla a goblygiadau posibl y newidiadau. 

 

Gwario ataliol

 

Nid yw’r setliad llywodraeth leol yn arian wedi’i neilltuo.  Dewis pob awdurdod lleol yw sut y bydd yn gwario’r adnoddau hyn, ynghyd â’r arian o dreth gyngor a godir yn lleol ac incwm o ffioedd a thaliadau, er mwyn cyflawni amcanion a blaenoriaethau pwysig.  Mae’r setliad craidd yn rhoi’r elfen unigol fwyaf o’r cyllid a gaiff llywodraeth leol i ariannu’r gwasanaethau amrywiol y mae’n gyfrifol amdanynt.    

 

Mae’r ymrwymiad i roi’r rhan fwyaf o’r cyllid drwy’r setliad sydd heb ei neilltuo a pharhau i drosglwyddo grantiau i’r setliad neu gyfuno grantiau yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau reoli adnoddau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r agenda ataliol. 

 

Mae pob awdurdod lleol yn gorff hunanlywodraethol sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd, ac mae’n atebol i’w etholaeth am y penderfyniadau y bydd yn eu gwneud.  Mae gan awdurdodau gyfres o ddyletswyddau a swyddogaethau statudol, a phwerau i ddarparu amryw o swyddogaethau a gwasanaethau eraill.  Rhaid i bob awdurdod sicrhau ei fod yn cymryd camau priodol i asesu effaith unrhyw bolisi y mae’n ei weithredu drwy’r arian a ddaw o’r setliad llywodraeth leol.  Bydd ceisio barn mewn ffordd drylwyr ac ystyrlon am ei gyllideb yn helpu’r awdurdod i sicrhau ei fod yn ystyried effeithiau’r gyllideb honno’n llawn.  Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw pennu eu blaenoriaethau gwario yn unol â hyn, gan ystyried y ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael iddynt.  Mae gofyn i awdurdodau lleol baratoi strategaethau ariannol ar gyfer y tymor canolig er mwyn sicrhau eu bod yn gosod cyllidebau sy’n sefydlog ac yn gynaliadwy yn y tymor canolig.  Mae'r pwysau ar gyllidebau yn golygu ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn ceisio barn pobl leol am benderfyniadau ac am sut y caiff adnoddau lleol eu blaenoriaethu a’u gwario.  Yn benodol, mae angen i awdurdodau geisio barn trigolion am benderfyniadau anodd ynghylch toriadau posibl.  Bydd pob awdurdod yn gwneud ei benderfyniadau ar sail anghenion a blaenoriaethau lleol, a rhaid iddo asesu effaith ei gynigion a’i benderfyniadau ar grwpiau sydd wedi’u gwarchod ac yng nghyd-destun ei swyddogaethau ehangach.

  

 

Diwygio Llywodraeth Leol

 

Mae’r gyllideb yn cynnwys £5 miliwn ar gyfer trawsnewid a deddfwriaeth.  Mae hyn yn gynnydd o £2.7 miliwn o’i gymharu â 2016-17.  Wrth fwrw ymlaen â’r agenda i ddiwygio llywodraeth leol, bydd angen rhoi arian sefydlu i gynorthwyo â hyn.  

 

Bydd yr arian hwn, yn ogystal â’r ffaith bod y setliad llywodraeth leol yn well na’r hyn oedd yr awdurdodau lleol yn ei ddisgwyl, yn galluogi’r awdurdodau i fuddsoddi mewn camau i’w trawsnewid, fel datblygu gwasanaethau ar y cyd i roi’r diwygiadau ar waith.

 

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y trefniadau presennol ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn parhau yn 2017-18 ac y bydd yr arian yn y setliad ar gyfer hyn yn parhau’n £244 miliwn.  Bydd hyn yn sicrhau bod tua 300,000 o gartrefi yng Nghymru yn dal i gael cymorth i dalu eu treth gyngor.  O blith y rhain, ni fydd tua 220,000 yn talu treth gyngor o gwbl.

 

Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb (BAGE)

 

Yn unol â’n hymrwymiad i barhau i wella Asesiad Effaith Cyllideb Llywodraeth Cymru, mae BAGE dros y blynyddoedd wedi bod yn hanfodol wrth roi cyngor a rhannu arferion da ar faterion cydraddoldeb, yn ogystal ag wrth wella’r sail dystiolaeth fel bod modd canfod a deall y materion sylfaenol sy’n ymwneud â chydraddoldeb. Mae’r gwaith hwn wedi dylanwadu a llywio ein gwaith ar y gyllideb yn y gorffennol, ac wedi rhoi platfform pwysig ar gyfer paratoadau’r gyllideb eleni.

 

Mae Cyllideb eleni wedi’i llywio gan yr ansicrwydd ariannol ac economaidd sy’n dal i fodoli. Ein blaenoriaeth yw rhoi cyfnod o sefydlogrwydd i’n gwasanaethau cyhoeddus craidd dros y 18 mis nesaf, er mwyn gallu paratoi gyda’n gilydd at y cyfnodau ariannol anos sydd o’n blaenau. Mae Symud Cymru Ymlaen 2016-21 yn gychwyn newydd i gyflawni, gan gydnabod bod y modd y cyflawnwn yr un mor bwysig â’r hyn a gyflawnwn.

 

I wneud hyn, bydd angen inni i gyd weithio a meddwl yn wahanol, ac rydym yn ffodus yng Nghymru bod gennym ddeddfwriaeth (Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol) er mwyn gyrru’r newid hwn yn ei flaen.  Rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i gynnwys pobl wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac wrth inni ddatblygu ein hymateb i’r Ddeddf byddwn yn parhau i ystyried sut yr ydym yn ceisio barn pobl a phartneriaid, yn enwedig wrth greu Cymru fwy cyfartal.

 

Yn ganolog i hyn, bydd angen manteisio ar arbenigedd a thystiolaeth er mwyn ystyried effaith ein penderfyniadau gwario. Byddaf yn edrych ar y ffordd orau o geisio barn rhanddeiliaid ynghylch materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb wrth bennu cyllidebau yn y cyfodol.

 

Wrth bennu ein cynlluniau ar gyfer 2017-18, rydym yn edrych ar sut yr ydym yn ceisio barn rhanddeiliaid er mwyn datblygu’n polisïau yn y dyfodol. Er enghraifft, rydym yn cynnwys rhieni yn y broses o ddatblygu gofal plant dros y ddwy flynedd nesaf, a hynny er mwyn canfod y model mwyaf effeithiol i ddarparu gofal plant o ansawdd da.

 

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

 

Mae’r Gyllideb ddrafft hon yn ymateb cytbwys a realistig yn y cyfnod ansicr hwn. Yn sgil yr amgylchiadau hyn, rydym wedi dyrannu ein hadnoddau er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau a buddsoddi yn ein ffyniant yn y dyfodol. 

 

Unwaith eto, rydym wedi dilyn dull integredig yn ein hasesiad o’r effaith, gan ganolbwyntio ar wneud penderfyniadau strategol gwybodus ar sail dadansoddiad o’r dystiolaeth am grwpiau sydd wedi’u gwarchod. Rydym wedi defnyddio tystiolaeth am y grwpiau hyn er mwyn targedu ein hadnoddau ac i geisio cael yr effaith gadarnhaol fwyaf, gan liniaru ar effaith cyni lle nad oes modd ei osgoi. Unwaith eto, mae hyn wedi ein galluogi i ystyried yn llawn yr effaith ar anfanteision economaidd-gymdeithasol, hawliau plant, y Gymraeg a datblygu cynaliadwy, yn ogystal â chanolbwyntio ar gydraddoldeb a threchu tlodi.

 

Fodd bynnag, tra bo’r Asesiad Effaith Integredig Strategol yn canolbwyntio ar effeithiau strategol penderfyniadau gwario ar lefel uchel, mae asesiadau effaith yn cael eu cynnal drwy gydol y broses o gynllunio’r gyllideb ar draws portffolios. Rhoddir asesiad o’r effeithiau hyn yn nhystiolaeth Gweinidogion i’r pwyllgorau pwnc.

 

Dull Integredig

 

Gan adeiladu ar y gwaith cychwynnol a wnaed i baratoi at oblygiadau’r Ddeddf yng Nghyllideb 2015-16, rydym yn parhau i ddatblygu sut yr ydym yn ymgorffori’r pum ffordd o weithio wrth baratoi’r gyllideb ddrafft, gan ddefnyddio Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol i lywio hynny.

 

Seiliwyd y cynlluniau yn y gyllideb ddrafft ar ddadansoddi’r ffactorau sy’n effeithio ar y galw am wasanaethau cyhoeddus yn yr hirdymor. Roedd y dadansoddiad hwn yn dangos yn glir bod angen dull sy’n seiliedig ar waith ataliol wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Wrth bennu cyllideb ar gyfer y sector cyhoeddus drwyddo draw, bûm yn eglur y bydd angen gwell integreiddio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ac y bydd hynny’n ganolog i ddarparu gwasanaethau’n fwy effeithiol, ac felly hefyd yr angen i gydweithio a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y broses. Rydym hefyd wedi parhau i ddilyn dull integredig o ystyried yr effaith ar grwpiau sydd wedi’u gwarchod, ac wrth ganolbwyntio ar yr amcanion cenedlaethol yr ydym yn eu rhannu.

 

Mae dull integredig o asesu effaith yn hanfodol, yn enwedig gan fod perthynas rhwng llawer o faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, tlodi a hawliau plant. Mae gwneud hyn yn ein helpu i ystyried yn well effeithiau posibl ein penderfyniadau ac i fod yn hyderus y gallwn eu rheoli gyda’i gilydd.

 

Rydym eisoes wedi dangos ein bod yn wynebu heriau sylweddol a gwirioneddol i gyflawni, a phan na fydd modd inni gynnal y cyllid sydd ar gael, mae angen inni sicrhau nad yw hynny’n cael effaith anghymesur ar grwpiau sydd wedi’u gwarchod.

 

Mae’r dull integredig yn rhoi asesiad mwy realistig o effaith gyfansawdd penderfyniadau gwario, ac yn cydnabod na fydd wastad un ateb a fydd yn lliniaru effaith penderfyniad ym mhob maes.  Mae’r asesiad hwn o effaith ein penderfyniadau yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac yn atal gwahaniaethu, a dyma sydd wedi llywio proses y gyllideb.

 

Er enghraifft, rydym wedi dilyn dull traws-bortffolio integredig wrth ddyrannu ein cyllideb gyfalaf ac wedi ystyried yr effeithiau disgwyliedig wrth flaenoriaethu dyraniadau yn y gyllideb. Gan weithio ar draws y Llywodraeth, rydym yn adolygu’r heriau a’r cyfyngiadau sy’n wynebu’r llywodraeth gyfan, gan graffu’n fanwl ar gynigion, herio rhagdybiaethau, a chanfod cyfleoedd i weithio ar y cyd, er enghraifft wrth edrych ar y tir sydd ar gael i adeiladu tai a’r rhaglen cartrefi fforddiadwy.    

 

Y sail dystiolaeth

 

Fel rhan o ddogfen naratif y gyllideb, rydym wedi cyhoeddi tystiolaeth o’r effaith ar grwpiau sydd wedi'u gwarchod, a defnyddiwyd y dystiolaeth hon wrth ystyried y Gyllideb.  Fodd bynnag, wrth wneud penderfyniadau, mae pob math o dystiolaeth yn cael ei hystyried er mwyn bod yn sail i’n cynlluniau gwario. 

 

Rydym wedi adolygu gwybodaeth am dueddiadau presennol ac yn y dyfodol, a thystiolaeth am grwpiau sydd wedi’u gwarchod, gan ystyried yr effaith bosibl ar y grwpiau hynny er mwyn rhoi sail i’n dewisiadau am y penderfyniadau a fydd yn rhoi’r gwerth gorau.

 

Er enghraifft, rydym yn defnyddio amryw o ffynonellau gwybodaeth gwahanol er mwyn rhoi sail i’n hystyriaethau ar y gyllideb, fel adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru'n Decach?’

 

6.    Deddfwriaeth

 

Mae’r gyllideb yn parhau i roi sylw i’n rhaglen ddeddfu bresennol.  Mae tabl yn nodi'r costau ar gyfer 2017-18, sef costau deddfwriaeth sydd eisoes mewn grym a chostau disgwyliedig Biliau pan wneir Asesiad Effaith Rheoleiddiol neu cyn iddynt ddod i rym, wedi'i gyhoeddi law yn llaw â naratif y Gyllideb Ddrafft.  Fel y nodwyd yn adran 6, mae £5m wedi’i neilltuo ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â thrawsnewid llywodraeth leol a rhoi deddfwriaeth ar waith i gyd-fynd â’r broses o ddiwygio ac adnewyddu awdurdodau lleol.